Mae sawl seren wedi talu teyrnged i’r actor Burt Reynolds, a fu farw yn 82 oed.
Fe ddaeth y gŵr o Michigan yn fwyaf enwog yn ystod y 1970au a’r 1980au am ei ran mewn ffilmiau fel Deliverence, Smokey and The Bandit a Cannonball Run.
Blodeuodd ei yrfa eto yn y 1990au ac fe gafodd ei enwebu am wobr yr Academi yn 1997 am ei ran yn y ffilm Boogie Nights.
Bu farw yn Florida ddoe (dydd Iau, Medi 6) ar ôl cael trawiad ar y galon.
Teyrngedau
Ymhlith y rheiny sydd wedi talu teyrngedau i Burt Reynolds mae rhai o sêr Hollywood fu yn cydweithio gydag ef dros y blynyddoedd.
Dywedodd Arnold Schwarzenegger bod Burt Reynolds “wastad wedi fy ysbrydoli”, ac mae’n ei gofio am ei “hiwmor da”.
Mae’r gantores Dolly Parton – a gydweithiodd â Burt Reynolds ar y ffilm The Best Little Whorehouse in Texas – wedi dweud ei bod yn “drist iawn” o glywed am ei farwolaeth.
“Dw i’n gwybod y byddwn ni wastad yn cofio ei chwerthiniad doniol, y pefriad drwg hwnnw yn ei lygaid, a’i hiwmor anarferol,” meddai.
“Fe fyddi di wastad yn cael dy golli, fy hoff sheriff. Gorwedda mewn heddwch fy ffrind. Fe fyddaf wastad yn dy garu.”