Mae gwirfoddolwyr yn Rheilffordd Talyllyn yn gobeithio codi hyd at £20,000 i atgyweirio hen goets.

Yn ôl gwirfoddolwyr, Coets Rhif 17 yw’r unig gerbyd o hen reilffordd Corris sy’n dal mewn bodolaeth, ac ar ôl blynyddoedd o wasanaeth ar reilffordd Talyllyn, mae angen “gwaith atgyweirio mawr” arni, medden nhw.

Maen nhw’n gobeithio ymgymryd â’r gwaith o atgyweirio yn ystod cyfnod o chwe mis eleni a’r flwyddyn nesa’, gyda’r arian sydd wedi’i godi yn mynd tuag at brynu deunydd a thalu cyflog gweithiwr.

Coets “eiconig”

Yn ôl Stuart Williams, Prif Reolwr Rheilffordd Talyllyn, mae’r goets yn un “arbennig”, ac fe ddechreuodd ei bywyd ar hen reilffordd Corris a ddaeth i ben ar gyfer teithwyr yn 1930.

“Mae’n unigryw – yr unig goets o Gorris sydd ar ôl – er bod yna sawl replica ohoni wedi cael eu gwneud, dyma’r unig un wreiddiol sydd ar ôl,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n goets sydd mor eiconig, mae’n werth ei chadw.”

Darn o hanes

Cafodd Coets Rhif 17 – a oedd yn Goets Rhif 8 ar reilffordd Corris – ei hadeiladu gan y cwmni o Birmingham, Metropolitan and Wagon Co., yn 1898.

Ar ôl i’r gwasanaeth i deithwyr ddod i ben ar reilffordd Corris yn 1930, fe gafodd y goets ei defnyddio fel sied ieir a thŷ gwydr mewn gardd yng Ngobowen ger Croesoswallt.

Cafodd ei hailddarganfod ddiwedd y 1950au, a’i hatgyweirio gan wirfoddolwyr Rheilffordd Talyllyn, cyn cael ei defnyddio i gludo teithwyr ar y rheilffordd o Dywyn i Abergynolwyn.

Yn 1982, fe deithiodd y Dywysoges Diana arni yn ystod ei hymweliad hi a’r Tywysog Charles â’r rheilffordd.

Y gwaith sydd ar y gweill fydd yr ail dro i’r goets gael ei hatgyweirio, er iddi gael got o baent newydd yn 2008.