Mae cynnyrch cwmni caws o Geredigion wedi cyrraedd y brig mewn digwyddiad yn Llundain, gan dderbyn gwobr y ‘Fforc Aur o Gymru’.
Mae seremoni wobrwyo Great Taste yn cael ei threfnu gan y Guild of Fine Food, ac mae gwobrau Great Taste yn cael eu disgrifio fel ‘Oscars’ y diwydiant bwyd.
Ymhlith y 12 o gynhyrchion o Gymru a dderbyniodd y wobr ucha’ o dair seren yn y seremoni neithiwr (dydd Sul, Medi 2), fe gafodd y ‘Fforc Aur o Gymru’ ei gyflwyno i gwmni Caws Teifi Cheese am gaws o’r enw ‘Celtic Promise’.
Caws artisan
Mae Caws Teifi Cheese wedi bod yn cynhyrchu caws o laeth amrwd ers dros 30 o flynyddoedd, sy’n golygu ei fod gyda’r cwmni caws artisan hynaf yng Nghymru.
Cafodd ei sefydlu yn 1982 gan John Savage-Onstwedder o’r Iseldiroedd, a aeth ati i adfywio’r traddodiad o ddefnyddio llaeth amrwd a chynhwysion lleol i gynhyrchu caws artisan.
Mae ‘Celtic Promise’ yn fath o gaws Caerffili sydd â chrofen wedi’i golchi. Mae’r grofen hefyd yn binc ac yn llaith.
Mae’r gwerthwyr yn dweud ei fod yn dda fel caws bwrdd, yn dda i’w goginio, ac yn addas i’w fwyta gyda seidr.
“Sgìl ac ymroddiad”
Yn ôl John Savage-Onstwedder, mae llwyddiant y caws yn tystio i “sgìl ac ymroddiad y tîm cyfan” yn Caws Teifi Cheese.
Mae hefyd yn diolch i fferm Cilcert yn Ffos-y-Ffin ger Aberaeron am gynhyrchu’r llaeth sy’n gwneud caws y cwmni.
“Mae’r ffaith bod y caws sydd wedi ennill y nifer mwyaf o wobrau ym Mhrydain yn cael ei gynhyrchu yma yng Ngheredigion yn brawf bod llaeth a chaws o Gymru, fel ei gilydd, yn gynhyrchion y gallwn fod yn falch ohonynt,” meddai.
Llwyddiant cynnyrch o Gymru
Fe gafodd 153 o gynhyrchion o Gymru eu cydnabod yng ngwobrau Great Taste eleni.
Fe dderbyniodd 110 o gynhyrchion Cymreig un seren, 32 yn derbyn dwy seren a 12 yn cael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y wobr tair seren.
Mae’r gwahanol raddau o sêr yn dynodi safon y cynnyrch:
- Tair seren – ‘Gwefreiddiol! Waw! Blasa Hwn!
- Dwy seren – ‘Anhygoel’
- Un seren – ‘Hynod o flasus’