Mae Llywodraeth Ffrainc wedi cyflwyno cyfraith sy’n gwahardd y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion.

Y nod yw helpu plant i ganolbwyntio ar eu gwersi, i gymdeithasu’n well ac i leihau’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r llywodraeth hefyd yn gobeithio y bydd yn atal lladrata, trais a bwlio o fewn yr ysgol.

‘Dim ffonau symudol’

Mae’r gyfraith yn gwahardd y defnydd o ffonau symudol ymhlith disgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Mae’n golygu na fydd hawl ganddyn nhw ddefnyddio’r teclynnau o fewn oriau’r ysgol, gan gynnwys amser cinio, heblaw am adegau pan fo argyfwng. Mae gan blant anabl yr hawl i’w defnyddio hefyd.

Bydd disgyblion yn cael eu gorchymyn i ddiffodd eu ffonau symudol a’u cloi mewn loceri.

I’r rheiny sy’n cael eu dal yn defnyddio un, bydd hawl gan athrawon i gymryd y ffôn a’i gadw tan ddiwedd y dydd.

Mae hawl gan ysgolion uwchradd i gyflwyno’r mesurau yn wirfoddol.