Mae’r M4 ynghau i’r dwyrain rhwng cyffordd 42 (Earlswood) a chyffordd 40 (Taibach) yn ardal Port Talbot yn dilyn gwrthdrawiad difrifol.

Yn ôl adroddiadau, mae nifer fawr o wasanaethau brys yn ymateb i’r digwyddiad, ac mae dynes yn derbyn triniaeth yn y fan a’r lle.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd, ond mae’r traffig yn drwm i’r gorllewin hefyd.

Mae’r traffig yn cael ei symud ar hyd ffyrdd eraill am y tro.