Mae enillydd ras feics Tour de France, y Cymro Geraint Thomas wedi galw am orfodi seiclwyr i wisgo helmed ar y ffyrdd.
Daeth ei sylwadau mewn cyfweliad â chylchgrawn y Sunday Times, lle dywedodd ei fod yntau bob amser yn gwisgo helmed, a’i fod wedi gwneud “mwy o weithiau na gwisgo gwregys”.
Ac fe alwodd ar i yrwyr cerbydau a seiclwyr dynnu ymlaen, gan “rannu’r heol” yn hytrach nag ystyried ei gilydd yn “elynion”.
Newid y gyfraith
Roedd disgwyl i’r gyfraith gael ei newid y llynedd, ond fe fu cryn wrthwynebiad i’r cynlluniau, wrth i Cycling UK ddweud nad oes “cyfiawnhad” tros orfodi seiclwyr i wisgo helmed, ac maen nhw wedi rhybuddio y gallai arwain at gwymp yn nifer y bobol sy’n seiclo.
Ymhlith y rhai eraill sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau mae’r cyn-seiclwr Chris Boardman.
Ond yn ôl Geraint Thomas, mae datblygiadau yn nyluniad helmedau’n golygu bellach nad oes “rheswm dros beidio” gwisgo helmed.