Dywed cyn-gapten Cymru, Sam Warburton, ei fod yn gwybod ei bod yn bryd iddo ymddeol pan sylweddoloddd na fyddai’n gallu chwarae i safon ryngwladol eto.
Cyhoeddodd y chwaraewr 29 oed y mis diwethaf ei fod yn rhoi’r gorau iddi ar ôl methu â goresgyn anafiadau i’w wddw a’i bengliniau.
Nid oedd wedi chwarae ers y drydedd gêm brawf yn erbyn y Crysau Duon 12 mis yn ôl, a methodd ag adenill ei ffitrwydd wrth ymarfer gyda Gleision Caerdydd wedi hynny.
“Pan o’n i’n ymarfer yn y gampfa, ro’n i’n cael poen yn fy ngwddw ac yn fy nghymalau,” meddai.
“Do’n i ddim eisiau bod yn chwaraewr oedd yn dal ati er mwyn dal ati – os na allwn i gyrraedd yr uchelfannau a arferwn, fe fyddai’n well gen i roi’r gorau iddi.
“Fe ddaeth hi’n amlwg ar ôl wythnos o ymarfer na allwn gyrraedd safon ryngwladol – allai fy nghorff ddim dygymod â chymaint â hynny o redeg mwyach.”
Mae’n cydnabod bod gemau Cwpan y Byd yn Japan y flwyddyn nesaf wedi gwneud ei benderfyniad yn fwy anodd.
“Ond roedd fy mhengliniau mor boenus ar ôl ymarfer, fel y penderfynais na fyddwn i byth yn mynd trwy 14 mis i gyrraedd Cwpan y Byd,” ychwanegodd.