Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Graham Potter wedi dweud wrth golwg360 fod yna “arwyddion cynnar” y gall ei dîm lwyddo yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.
Ar ôl gostwng o’r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf, cafodd y Sais ei benodi dros yr haf yn lle Carlos Carvalhal, ac mae ei dîm wedi ennill dwy gêm a chael dwy gêm gyfartal hyd yn hyn.
Maen nhw’n wynebu Bristol City yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn, wrth iddyn nhw geisio ymestyn eu rhediad diguro i bum gêm.
Ac yn ôl Graham Potter, mae ei dîm eisoes wedi dangos y gallan nhw ymdopi â defnyddio nifer o wahanol ddulliau ar y cae i sicrhau canlyniadau positif.
“Mae pawb yn dweud nad oes yna’r un gêm yr un fath â gêm arall. Mae yna 46 o gemau. Mewn gwahanol amgylchiadau a gwahanol sefyllfaoedd yn erbyn unrhyw fath o dîm, allwch chi ddim defnyddio un dimensiwn yn unig.
“Hyd yn hyn, ry’n ni wedi dangos pethau, mewn gwirionedd, lle gallwch chi edrych yn ôl a dweud, ‘Wel, roedd hynny’n syndod, roedd arwyddion y gallwn ni wneud pethau’.”
Pasio’r bêl
Ar hyd y blynyddoedd yn yr Uwch Gynghrair, câi Abertawe eu canmol am eu dull o basio’r bêl – ac fe gawson nhw eu cymharu â Barcelona ar adegau, hyd yn oed.
Er bod y dull wedi symud ymhell oddi wrth hynny dros y blynyddoedd diwethaf, mae yna arwyddion y gall tîm Graham Potter symud y bêl yn gelfydd.
“Ry’n ni wedi chwarae pêl-droed dda. Ar adegau, pan y’n ni wedi pasio’r bêl, fel y gwnaethon ni ar gyfer y gôl gyntaf yn erbyn Sheffield United, mae’n enghraifft o’r hyn ry’n ni wedi bod yn ceisio’i wneud.”
Taro’n ôl
Roedden nhw ar ei hôl hi o gôl i ddim yn erbyn Sheffield United cyn mynd ymlaen i ennill y gêm o 2-1, ac mae’r gallu i daro’n ôl yn elfen arall yng ngallu’r Elyrch sydd wedi plesio Graham Potter.
“Mae’n rhywbeth mae llawer o dimau’n ei gael yn anodd gwneud. Mae bod yn wydn ac aros am ychydig o lwc o dro i dro yn rhywbeth welson ni yn erbyn Birmingham hefyd [gêm gyfartal ddi-sgôr]. Os na allwch chi fod yn wydn, yna ry’ch chi’n marw mewn gemau.
Cam ymlaen yn erbyn Leeds
Daeth perfformiad gorau Abertawe yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn Leeds, er i honno orffen yn gyfartal 2-2.
Mewn gwirionedd, fe ddylen nhw fod wedi cipio buddugoliaeth yn erbyn un o’r ffefrynnau i ennill y gynghrair, ac fe fydden nhw wedi gwneud hynny pe bai Bersant Celina wedi gallu manteisio ar gyfle i hwyr i rwydo.
Ychwanegodd Graham Potter, “Ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi cymryd cam ymlaen yn erbyn Leeds.
“Ond mae’n rhaid i ni roi hynny o’r neilltu nawr a gweld beth ddaw yn ein gêm nesaf. Drwy’r cyfan, rhaid i chi ganolbwyntio ar hyn sydd rhaid i chi geisio ei wneud er mwyn ennill.”