Fe fydd cyn-ymosodwr tîm pêl-droed Abertawe, Gylfi Sigurdsson yn ymddangos mewn fersiwn newydd o’r gêm gyfrifiadurol Angry Birds ar gyfer dyfeisau symudol.
Mae’n un o dri chwaraewr pêl-droed – y rhai cyntaf erioed – i ymddangos yn y gêm sy’n cael ei chreu gan gwmni Rovio, sy’n noddi crysau Everton, tîm presennol Gylfi Sigurdsson.
Mae ei gymeriad wedi cael ei ddatblygu ar sail ei gryfder corfforol a’i gefndir Nordig, ac yntau’n hanu o Wlad yr Iâ.
Theo Walcott a Cenk Tosun yw’r ddau chwaraewr arall sy’n ymddangos yn y gêm, sydd erioed wedi gweithio ym maes pêl-droed o’r blaen, ond sydd â chysylltiadau â nifer o gampau eraill.
Ond bydd y cymeriadau hyn ar gael dros dro yn unig, tan ddydd Llun nesaf.