Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Graham Potter wedi canmol ei dîm ar ôl iddyn nhw lwyddo i atal Leeds rhag ennill gêm am y tro cyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.
Roedden nhw ar y blaen ddwywaith yn ystod y gêm, ac mae’r gêm gyfartal 2-2 yn golygu eu bod nhw’n drydydd yn y tabl.
Mewn gwirionedd, pe bai Bersant Celina wedi gallu rhwydo o gyfle euraid yn niwedd y gêm, fe allen nhw fod wedi cipio’r triphwynt.
Ac fe gyfaddefodd rheolwr Leeds, Marcelo Bielsa fod yr Elyrch wedi achosi mwy o broblemau i’w dîm nag unrhyw dîm arall hyd yn hyn.
Aeth yr Elyrch ar y blaen wrth i Oli McBurnie rwydo ar ddiwedd gwrthymosodiad ar ôl 24 munud. Ond fe lwyddodd Kemar Roofe i unioni’r sgôr bum munud cyn yr egwyl.
Ond aeth yr Elyrch ar y blaen unwaith eto chwe munud i mewn i’r ail hanner wrth i Oli McBurnie benio’i ail gôl oddi ar groesiad gan Martin Olsson.
Ond roedd y sgôr yn gyfartal unwaith eto pan rwydodd cyn-asgellwr Abertawe, Pablo Hernandez 11 munud cyn diwedd y gêm.
Daeth cyfle hwyr i Bersant Celina wrth iddo redeg i mewn i’r cwrt cosbi a gweld ei ergyd yn cael ei harbed.
‘Balch’
Ar ddiwedd y gêm, dywedodd rheolwr Abertawe, Graham Potter ei fod yn “falch” o’i dîm, yn enwedig eu “cymeriad, agwedd, ansawdd a dewrder”.
“Fe wnaethon ni chwarae yn erbyn tîm da a dangos lefel dda iawn. Dw i’n falch o’r chwaraewyr ac yn falch o’r awyrgylch yn y stadiwm.
“Chwaraeon ni â dwyster da ac roedd gyda ni syniad go dda o’r hyn roedden ni eisiau ei wneud. Fe ddangoson ni ddewrder hefyd.
“Ar y cyfan, dw i’n falch iawn o’r chwaraewyr ac yn hapus ein bod ni wedi cymryd cam arall ymlaen. Nawr mae angen i ni ymadfer a sylweddoli y gallwn ni wella eto.”