Dylai pobol siarad yn eu tafodieithoedd â hyder ac anwybyddu plismyn iaith, yn ôl perfformir o ogledd ddwyrain Cymru.

Mae Stifyn Parri yn dod yn wreiddiol o Rosllannerchrugog, ac mae’n dweud bod acen a rhythm yr iaith yno wedi cael dylanwad ar ei waith “heb os nac oni bai”.

Er bod ei acen ef wedi “gwanhau” a diflannu i ryw raddau, mae’n mynnu bod ei deulu a’i ffrindiau ag acenion cryf o hyd, a bod y dafodiaith yn cripian yn ôl o bryd i’w gilydd.

Mae’n ymfalchïo yn yr acen, ac yn ceryddu ymdrechion gan y “Welsh Language Police” i blismona iaith a chael pobol i gefnu ar eu tafodieithoedd.

“Dw i’n meddwl bod ni yng Nghymru yn eitha’ dihyder,” meddai wrth golwg360. “Ac weithiau mae rhai ohonon ni’n actio’n or-hyderus i guddio hynny.

“Dw i’n meddwl bod ni gyd yn lladd ar ein gilydd ynglŷn â sut yr ydyn ni’n siarad – tros iaith a safon. Ond, wrth gwrs, y peth pwysicaf yw bod pobol yn siarad eu Cymraeg nhw.

“Dw i erioed wedi cymryd sylw o neb sydd wedi dweud wrtha i sut i siarad. Mi wna’i siarad yn union fel ydw i. Er o ddeud hynny, mae lot o acen y Rhos wedi mynd. Ond nid o ran trïo.”

Cau dy Geg

Mae Stifyn Parri wedi bod wrthi’n perfformio ei sioe gomedi Cau dy Geg ledled Cymru,  ac mae e’n nodi bod “lot o Gymraeg Rhos” i’w glywed ynddi.

Mae’n jocian bod “pobol yn dueddol o fod yn gas mewn ffordd gynnes iawn” yn y pentre’ gan alw ei gilydd yn “ffyliaid” a’n defnyddio “uffern” – neu ‘uffen’ yn Rhos – yn “air anwes”.

“Pan oeddwn i’n blentyn roedd fy mam i’n dweud wrtha i ‘Tyrd yma, mochyn budr’,” meddai. “Dyna beth oedd hi’n galw fi. Ac roedd hwnnw hefyd fatha rhywbeth neis i ddweud.

“Mae ‘na sense of humour eitha’ boncyrs gan bobol Rhos. Dydi pawb ddim fel’na, ond dw i yn meddwl bod ni’n reit unigryw. A dw i’n meddwl hynny er bo fi wedi gadael y lle ers blynyddoedd maith.”

Termau

Nene ne siene = hwnnw fan acw

Odi = bwrw eira

Tyd a gythow = Tyrd â fo yma

Rho dy gwat ymlaen = Rho dy gôt ymlaen