thafodiaith y Wenhwyseg yn raddol farw allan, mae un o siaradwyr ola’ hen dafodiaith de-ddwyrain Cymru yn teimlo’i bod yn “eistedd wrth ochr gwely angau”.

Er iddi gael ei magu ar aelwyd lle’r oedd pawb yn siarad “rhyw fath o’r Wenhwyseg” mae Dr Elin Jones yn cydnabod ei bod bellach ymhlith llond llaw o bobol sy’n siarad yr acen.

Does dim un aelod o’i theulu yn siarad Cymraeg, a does ganddi ddim plant “felly mae’r dafodiaith wedi marw gyda fi,” meddai.

“Wi’n meddwl bod e wedi marw, ond mae’n twitcho tamed bach o hyd,” meddai wrth golwg360. “A fi yw un o’r twitches!

“Does dim ffordd arall o’i ddisgrifio fe. Mae prin hanner dwsin o bobol [sy’n siarad y dafodiaith o hyd]. A wi ddim yn eu nabod nhw.”

Achos y dirywiad?

Mae Elin Jones yn myfyrio am ei phlentyndod yn Ystrad Mynach lle doedd “dim un” o’i chyfoedion yn siarad Cymraeg, er eu bod ei rhieni’n medru’r iaith.

 hithau’n hanesydd, mae’n esbonio bod mewnlifiad o Saeson ac allfudiad o Gymry wedi dirwasgiad y 1930au, yn rhannol gyfrifol am ddirywiad yr iaith yn ei hardal – ac yn ei dro, y Wenhwyseg.

Ond, mae hi hefyd yn tynnu sylw at ffactor a chafodd effaith, sef teimlad o “gywilydd” ymhlith pobol dde ddwyrain Cymru yn eu hacen eu hunain.

“Cywilydd”

“Roedd mam â chywilydd mawr o’i Chymraeg hi,” meddai. “A doedd hi ddim yn lico siarad Cymraeg, achos doedd hi ddim yn teimlo bod hi’n siarad Cymraeg deche.”

Mae’n ategu bod “iaith y capel” wedi tanseilio hyder Cymry’r de ddwyrain yn eu hacen, a bod y Gymraeg honno’n cael eu hystyried yn uwchraddol.

“Doedd neb yn darllen y Beibl yn y Wenhwyseg o’r bwlpit,” meddai. “… Roeddech chi’n siarad Cymraeg safonol pan oeddech chi’n cymryd rhan yn y capel.”

“Pesimistaidd”

Mae’r sefyllfa tipyn yn wahanol bellach, meddai Elin Jones, gyda’r Cymry’n “dathlu” eu tafodieithoedd – er bod statws “iaith safonol yr ysgol, y capel a’r eglwys” heb newid, meddai.

“Peidiwch geryddu’r plant am ddefnyddio’r dafodiaith, neu olion y dafodiaith,” meddai wedyn, cyn rhannu ei phryderon am ddyfodol y Gymraeg yn ei hardal.

“Wi’n eithaf pesimistaidd ambythti hyn,” meddai. “Achos wnaetho i fyw ym medd yr iaith, fel petai. A dw i wedi byw i weld hi’n cael ei adfer, a’i adfywio.

“A braf yw hi i ddweud fy mod yn siarad Cymraeg [yn fy mywyd pob dydd] … Ond, y dewis yma i siarad Saesneg pan ydych yn medru siarad yr iaith – dyna yw’r cam fydd yn lladd yr iaith.”