Mae elusen yn apelio am wybodaeth wedi i bedwar paen a ffesant gael eu gadael mewn bocs yn ardal Glannau Dyfrdwy.

Cafodd yr adar eu darganfod mewn gardd ar Stryd Clwyd, Shotton, ddydd Mawrth yr wythnos ddiwethaf (Awst 14).

Yn ôl elusen yr RSPCA, does gan berchennog yr ardd ddim syniad o le ddaeth yr adar, ac mae ymdrechion ar droed i ddatgelu rhagor.

Mae dau o’r peunod yn oedolion, dwy yn ieir iau, ac mae’r ffesant hefyd yn ifanc.

“Trist iawn”

“Mae’n ymddangos fel bod perchennog yr adar yma wedi cefnu arnyn nhw, ac mae hynny’n drist iawn,” meddai un o archwilwyr elusen yr RSPCA, Tim Jones.

“Bellach maen nhw yng ngofal yr RSPCA ac wedi cael eu trosglwyddo i ganolfan,” meddai wedyn. “Doedden nhw ddim wedi’u hanafu, ac maen nhw mewn cyflwr da,”