Fel 'yr holocost' meddai Eliota Fuimaono-Sapolu (llun o'i dudaled Twitter)
Wrth i chwaraewyr Cymru ganmol eu ffitrwydd eu hunain, mae un o chwaraewyr Samoa wedi cyhuddo trefnwyr Cwpan y Byd o wneud cam â’r gwledydd llai.

Dim ond pedwar diwrnod o orffwys a gafodd Samoa cyn y gêm tra cafodd Cymru wythnos gyfan.

Yn ôl Eliota Fuimaono-Sapolu, a oedd yn eilydd ddydd Sul, mae hynny’n annheg ac yn rhagfarn yn erbyn gwledydd fel Samoa.

Mewn negeseuon ar y wefan gymdeithasol, Twitter, mae’n cymharu agwedd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol i gaethwasiaeth, yr holocost ac apartheid.

Gyda rhegfeydd cry’, mae’n herio’r Bwrdd i’w atal rhag chwarae, gan ddweud fod y Bwrdd wedi trefnu’r gêmau’n fwriadol er mwyn i Gymru ennill, fel y gwnaethon nhw o 17-10.

Fe ddaeth cefnogaeth gan negeseuwyr eraill sydd hefyd yn tynnu sylw at ffawd Namibia’n gorfod chwarae De Affrica a Chymru o fewn pedwar niwrnod.

Cymru’n canmol ffitrwydd

Mewn cyfweliadau ar ôl y gêm yn erbyn Samoa, mae chwaraewyr Cymru wedi canmol eu ffitrwydd ar ôl gwersylloedd hyfforddi caled dros yr haf.

Maen nhw’n dweud y bydden nhw wedi colli’r gêm yn y gorffennol a’u bod wedi gallu cadw i fynd am yr 80 munud.

Dyw hi ddim yn glir eto pa mor ddrwg yw’r anafiadau i figwrn Dan Lydiate ac i ysgwydd James Hook ond fe allai’r cefnwr fod allan am gymaint â thair wythnos.