Munster 35 Scarlets 12


Nigel Davies
Mae hyfforddwr y Scarlets wedi rhoi’r bai ar gamgymeriadau am y gweir a gafodd ei dîm yn y gwynt a’r glaw ym Munster.

Roedden nhw wedi ildio gormod o giciau cosb, meddai Nigel Davies wedyn, a hynny wedi rhoi’r cyfle i Munster reoli’r chwarae.

Roedd hefyd yn feirniadol o’i chwaraewyr am fethu â chadw at y sgiliau sylfaenol – hyd yn oed dan yr amgylchiadau roedd hynny’n ormod, meddai.

Roedd y Scarlets wedi gorfod amddiffyn am y rhan fwya’ o’r gêm yn erbyn y Gwyddelod corfforol ac roedd y sgoriau yn yr hanner cynta’n cynnwys cais cosb.

Er hynny, dim ond 20-9 oedd hi bryd hynny ac fe gafodd y Scarlets gic gosb yn union wedi’r egwyl i’w gwneud hi’n 20-12.

Ond, ar ôl hynny, gêm Munster oedd hi, gyda dau gais arall i roi sglein ar y sgôr iddyn nhw.

Dau gysur i’r Scarlets oedd perfformiad y canolwr Gareth Maule, yn ôl wedi anaf, a gêm gyntaf y cefnwr 19 oed, Dale Ford, a giciodd yn dda, gan gynnwys un gôl gosb.