Cwoan Rygbi'r Byd (Bombdog CCA 2.0)
Fe fydd rhaid i Dde Affrica guro Samoa cyn y bydd Cymru’n weddol siŵr o gyrraedd chwarteri Cwpan Rygbi’r Byd.
Ond fe fyddai dwy fuddugoliaeth i Gymru yn erbyn Namibia a Fiji, gyda phwyntiau bonws, yn gallu bod yn ddigon.
Oherwydd rheolau’r gystadleuaeth, sy’n cynnig pedwar pwynt am fuddugoliaeth a phwynt bonws am sgorio pedwar cais a bod o fewn saith pwynt, y gêm dyngedfennol yw honno rhwng y Springboks a Samoa.
Grŵp tynn
Ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn Samoa y bore yma, grŵp Cymru yw un o’r rhai tynna’ yn y gystadleuaeth ac mae’r ffaith fod Samoa wedi cael pwynt bonws heddiw wedi cynyddu’r pwysau.
Pe bai Samoa yn curo De Affrica ac yn sgorio pedwar cais yn y gêm honno, a’r holl gêmau eraill yn mynd yn ôl y disgwyl, fe fyddai Cymru allan o’r bencampwriaeth.
Fe fydden nhw’n gallu cael cyfanswm o 15 pwynt ond fe fyddai Samoa’n gallu cael 16. Er y byddai De Affrica hefyd yn gallu cael 15 pwynt, nhw fyddai’n mynd trwodd oherwydd eu bod wedi curo Cymru.