Mae Gareth Bennett wedi amddiffyn ei brif bolisïau yn ystod ymgyrch arweinyddiaeth UKIP Cymru, gan fynnu nad ydyn nhw’n wrth-Gymraeg.
Daeth yr Aelod Cynulliad i’r brig ddydd Gwener (Awst 10) ar ôl pleidlais ymhlith yr aelodau, ac wrth wraidd ei ymgyrch oedd yr addewid y byddai’n disodli polisïau Cymraeg Llywodraeth Cymru.
Mae’r arweinydd newydd eisiau cefnu ar y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac wedi cyfleu pryder, yn y gorffennol, bod plant yn cael eu “gorfodi” i fynd i ysgolion Cymraeg.
Dadl y gwleidydd yw y dylai arian cyhoeddus gael ei ganolbwyntio ar gadw’r iaith yn fyw yng ngorllewin Cymru ac mewn ardaloedd Cymraeg yn unig.
“Dydi [fy mholisïau] ddim yn wrth-Gymraeg,” meddai wrth golwg360. “Cynnig ffordd o wario’r arian yn effeithlon fel bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu – dyna maen nhw’n gwneud.
“Dw i ddim yn dweud ‘o diar, mae’r Gymraeg yn rubbish beth am gael gwared arno’. Mae hynny’n wallgof. Dw i’n ymwybodol o statws hanesyddol y Gymraeg, a dw i’n ymwybodol bod y bobol Geltaidd wedi bod yma cyn yr Eingl Sacsoniaid.
“Felly pam faswn i eisiau cael gwared ar elfennau o’n hanes?”
“Barmy”
Mae Gareth Bennett yn rhannu rhagor am ei safiad ar bolisïau Llywodraeth Cymru, gan ddweud eu bod yn “hollol barmy” a bod y targed ‘miliwn o siaradwyr’ yn “random”.
Dylai’r opsiwn o ddysgu a siarad Cymraeg fod yn “ddewisol”, meddai cyn nodi bod angen bod yn “ofalus ynglŷn â thrywydd ein polisi ysgolion mewn lle fel Caerdydd”.
“‘Dych chi ddim eisiau i bobol sydd wedi’u magu ar aelwydydd Saesneg eu hiaith, gael eu trosglwyddo i addysg Cymraeg ei iaith,” meddai.
“Dw i ddim yn credu bod hynna’n syniad da, achos dw i ddim yn credu bydd hynny’n cael effaith da ar ganlyniadau addysgiadol.”
Dysgwr
Manylyn a fydd o syndod i rai yw bod Gareth Bennett wrthi’n dysgu’r Gymraeg.
Mae hefyd ganddo Lefel O yn yr iaith, a bu iddo ymweld â gwersyll yr Urdd Llangrannog yn grwt 11 blwydd oed.
“Dw i ddim yn hollol anghyfarwydd â’r Gymraeg, ond dw i ddim yn credu y byddai Cymdeithas [yr Iaith] yn hoffi clywed hynny,” meddai.
“Mi fyddan nhw mwy na thebyg yn hoffi fy mhortreadu fel rhyw fath o siaradwr uniaith Saesneg anwybodus. Dim dyna yw’r sefyllfa.
“Dyw fy Nghymraeg ddim mor dda ag yr hoffwn iddo fod, ond dw i wedi bod yn cael gwersi Cymraeg ers rhai misoedd. Felly dw i yn trio gwella.”
Cafodd y cyfweliad cyfan ei gynnal trwy gyfrwng y Saesneg.
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru a Cymdeithas yr Iaith am ymateb.