Mae enillydd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd wedi datgan ei bod am weld Adam Price yn arweinydd Plaid Cymru.
Yn ôl y bardd a’r awdures, a gafodd ei gwneud yn brifardd yn y brifwyl yr wythnos ddiwetha’, Adam Price fydd yr arweinydd a’r Prif Weinidog “gorau”.
Er i Catrin Dafydd fod yn aelod o ymgyrch ethol Leanne Wood yn arweinydd yn 2012, ac er bod ganddi “barch aruthrol” tuag ati, meddai, mae’n credu bod yr “amser wedi dod” i Adam Price arwain.
Mae’n dweud bod yr Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn “wladweinydd penigamp”, sydd â’r gallu i “arwain y genedl ar daith i annibyniaeth”.
Mae hefyd yn dweud bod ei “uchelgais fawr dros Gymru wedi ei wreiddio’n ddwfn yn egwyddorion ein plaid”, a bod ganddo “ddawn anarferol i arwain ac ysbrydoli ar lefel lleol, cenedlaethol a rhyngwladol”.
“Siglo seiliau gwleidyddiaeth”
“Ar gyfnod mor ansicr yng Nghymru a thros y byd, mae gwir angen arweinydd cadarn a phrofiadol ar y Blaid a’r wlad – arweinydd all gyflwyno syniadau creadigol, radical ac arloesol er mwyn trawsnewid economi Cymru,” meddai.
“Adam yw’r person gyda’r cynllun hwnnw a byddai ei ethol yn arweinydd ar ein plaid yn sicr o siglo seiliau gwleidyddiaeth Cymru a thu hwnt.
“Gallwn ennill gydag Adam.”