Dafydd Islwyn oedd yn gyfrifol am gyhoeddi i’r byd mai Frank Olding, cyn-Gadeirydd Pwyllgor Gwaith prifwyl Y Fenni, oedd un o’r beirdd oedd yn deilwng o Goron yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Yn ystod un o sesiynau Ymryson Barddas yn y Babell Lên yng Nganolfan y Mileniwm yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd y sgoriwr wrth y Meuryn, Tudur Dylan Jones, mai’r bardd o hen sir Gwent oedd ‘Enlli’ yn y gystadleuaeth i feirdd rhydd.
Roedd 42 wedi anfon eu gwaith i’r gystadleuaeth, a’r beirniaid, Christine James, Damien Walford Davies ac Ifor ap Glyn, wedi gosod pump yn y dosbarth cyntaf.
“Frank Olding oedd yn ail am y Goron,” meddai Dafydd Islwyn wrth y Meuryn, o flaen y timau oedd yn ymryson ac o flaen y famerâu.
“Ydach chi’n siwr?” holodd Tudur Dylan Jones, cyn holi os oedd Frank Olding yn gwybod ei fod am rannu’r wybodaeth gyda’r genedl. Mae Frank Olding wedi dod yn agos at gipio’r Goron genedlaethol cyn hyn.
Yn y feirniadaeth o’r llwyfan ddydd Llun diwethaf, roedd Christine James wedi cyfeirio at ‘Enlli’ fel “bardd cynnil… a chyfeiriadaeth ei gerddi’n eang-gyfoethog”.