Rhan o'r dudalen ar Facebook
Mae cwyn wedi ei gwneud i’r heddlu ynglŷn â thudalenn ar y wefan gymdeithasol Facebook sy’n gwneud hwyl am ben marwolaeth y pedwar glöwr o Gwm Tawe.

Er ei bod yn honni mai “tynnu coes” yw hynny, mae teitl y wefan yn sôn am farwolaeth y pedwar gan ddweud “LOL” – laugh out loud – am mai Cymry oedden nhw.

Wedi hynny, mae rhes o bobol wedi ychwanegu sylwadau, gan gynnwys rhai sy’n gwawdio marwolaeth y pedwar yn uniongyrchol.

Mae yna hefyd “jôcs” am yr iaith Gymraeg a’r Cymry ac am rai ffigurau adnabyddus eraill o Gymru. Er bod rhai cyfranwyr wedi rhoi enwau, dyw hi ddim yn glir pwy sydd wedi creu’r dudalen.

Erbyn hyn, mae ymateb wedi bod, gydag ymgyrch ar Facebook i annog pobol i gwyno ac mae un o’r Aelodau Cynulliad lleol hefyd wedi condemnio’r dudalen.

Bethan Jenkins yn beirniadu

“Roeddwn i’n teimlo’n eitha sâl pan ddarllenais y sylwadau, ond mae’n debyg mai dyna’r pwynt yr oedd y bobol hynny am ei wneud,” meddai Bethan Jenkins, AC tros Orllewin De Cymru ac un a fu’n ymweld ag ardal y trychineb yng Nghilybebyll yr wythnos ddiwetha’.

“Maen nhw’n ffynnu ar enw drwg, a’r ffordd orau i ymdrin â hyn yw anwybyddu’r sylwadau, a peidio â rhoi cyhoeddusrwydd iddynt.

“Rwy’n falch fod pobol o bob man wedi ei gwneud yn hysbys nad yw hyn yn dderbyniol, a bod cymaint o bobol yn cydymdeimlo â theulueoedd y glowyr a fu farw.

“Mae cronfa ar gyfer teulueoedd y glowyr wedi cael ei sefydlu, ac felly rhaid i ni ganolbwyntio ar bethau cadarnhaol yn ystod y cyfnod anodd yma i gymunedau cymoedd Abertawe.’

Yn ystod yr wythnosau diwetha’, fe fu sylw i weithgareddau o’r fath gydag un dyn ifanc yn cael ei erlyn am anfon sylwadau dilornus at wefannau sy’n cofio am bobol a fu farw.