Mae Cymru’n un o ddim ond pedwar rhanbarth economaidd lle mae nifer y swyddi yn y sector cyhoeddus wedi tyfu yn ystod y flwyddyn ddiwetha’, meddai corff ymchwil.

Ond, ar yr un pryd, mae hi’n un o’r ardaloedd hefyd sy’n colli mwya’ o swyddi yn y sector preifat – dim ond Dwyrain y Midlands sydd wedi colli mwy.

Yn ôl y corff, Centre for Cities, mae’n dangos bod patrwm gwahanol ar draws gwledydd Prydain, gyda swyddi cyhoeddus yn cael eu colli fwya’ yng ngogledd a Midlands Lloegr – 75% o’r cyfanswm.

Yng Nghymru, yr Alban,Llundain a de-ddwyrain Lloegr, fe gododd nifer y swyddi sector cyhoeddus rhwng mis Mehefin 2010 a mis Mehefin eleni.

Ffigurau Cymru

Mae Centre for Cities yn dibynnu ar y ffigurau cyflogaeth sydd newydd eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau ac mae’r rheiny’n dangos bod Cymru wedi colli bron cymaint o swyddi sector preifat ag y mae wedi eu hennill yn y sector cyhoeddus.

  • Fehefin i Fehefin, roedd Cymru wedi ennill 35,800 o swyddi yn y sector cyhoeddus – cynnydd o 8.7%
  • Yn yr un cyfnod, roedd hi wedi colli 30,000 o swyddi yn y sector preifat – gostyngiad o 3.7% mewn swyddi o’r fath a llawer mwy nag unrhyw ranbarth economaidd arall, heblaw Dwyrain y Midlands.

Dyw’r ffigurau chwaith ddim yn cynnwys unrhyw golledion sydd wedi bod ers mis Mehefin.

‘Y sector preifat yn methu â thyfu digon’

Yn y rhan fwya’ o ardaloedd eraill, mae nifer y swyddi sector cyhoeddus wedi gostwng yn sylweddol a swyddi sector preifat wedi codi ychydig.

“Mae’r Centre for Cities yn dadlau bod hyn yn dangos bod y sector preifat ar hyn o bryd yn cael trafferth i greu swyddi ar y raddfa sydd eu hangen i wneud iawn am y swyddi sector preifat a gafodd eu colli yn ystod y dirwasgiad a’r lleihad yn y sector cyhoeddus,” meddai datganiad ar wefan y corff.