Neuadd y Ddinas Caerdydd
Fe fydd Cyngor Dinas Caerdydd yn ailystyried eu cynlluniau i godi ysgol uwchradd newydd yn nwyrain y brifddinas, ond fe allai hynny fod yn newyddion da i addysg Gymraeg.

Oherwydd toriadau yng nghyfraniad Llywodraeth Cymru at ysgolion newydd, mae’r Cyngor yn dweud na fyddan nhw’n gallu bwrw ymlaen ar unwaith gydag ysgol uwchradd newydd cyfrwng Saesneg yn yr ardal.

Ac fe fyddan nhw hefyd eisiau ystyried y newid mewn anghenion, gan ddweud bod cynnydd mewn galw am addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg Babyddol yn nwyrain Caerdydd.

Y bwriad yn awr yw gofyn am arian i ddatblygu ysgol newydd gan wrth gam ar safle Ysgol Uwchradd Tredelerch gyda’r gobaith o ryddhau £11 miliwn ar gyfer pwrpasau eraill.

Mae’r ailystyried yn rhan o broses debyg sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru ar ôl i’r Llywodraeth ddweud y bydd eu cyfraniad at adeiladau ysgol newydd yn mynd i lawr o 70% i 50% yn ystod y blynyddoedd nesa’.

Roedd nifer o siroedd wedi creu cynlluniau aildrefnu gan ddibynnu ar gael y lefel uwch o gyllid.

Sylwadau Arweinydd y Cyngor

“Mae llai o arian ar gael bellach gan Lywodraeth Cymru i gyfrannu at gyfanswm costau rhaglen ad-drefnu ysgolion y Cyngor,” meddai arweinydd Cyngor y Ddinas, Rodney Berman.

“Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i ni ailystyried sut y gallwn gyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer addysg ledled y ddinas.

“Yn awr, fe fydd yn rhaid i’r projectau yr oeddem am eu gwneud ar unwaith gael eu gwneud gam wrth gam.

“Mae’n anochel bod hyn yn golygu y bydd hi’n cymryd mwy o amser i gyflawni’r gwelliannau yr hoffai’r Cyngor eu gwneud i adeiladau ysgolion.”