Mae Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi ymddiheuriad pellach yn dilyn ei sylwadau am “anwariaid” Uganda, Abergele a gogledd Lloegr yn ystod Cymanfa Ganu’r brifwyl nos Sul (Awst 5).
Wrth ymddiheuro’r tro cyntaf, dywedodd ei fod yn “ei chael hi’n anodd deall fod rhai pobol wedi methu deall cyd-destun ac ysbryd fy ngeiriau yn seremoni Cymru a’r Byd wrth gyfeirio at Emrys ap Iwan, Abergele, at Uganda ac at Ogledd Lloegr”.
Dywedodd na fyddai’n “dilorni unrhyw leiafrifoedd yng Nghymru a gweddill y byd”, a bod ganddo’r “parch mwya’ at leiafrifoedd sy’n sefyll dros eu hawliau”.
Ond fe ymddiheurodd am unrhyw “gam-ddehongli” a “loes” yn sgil ei eiriau.
Ymddiheuriad o’r newydd
Wrth i’r Eisteddfod ddirwyn i ben, mae Eifion Lloyd Jones wedi cyhoeddi ymddiheuriad pellach, gan fanylu rywfaint ar gyd-destun ei sylwadau.
Dechreua ei ddatganiad drwy ddweud ei fod yn “ymddiheuro am unrhyw bryder neu loes a achoswyd yn anfwriadol”.
Dywedodd nad oedd “unrhyw fwriad ar fy rhan i fod yn hiliol”, gan egluro iddo “ymgyrchu erioed o blaid lleiafrifoedd a chenhedloedd o dan ormes”.
Mae’n mynd ymlaen wedyn i egluro nad oedd y sylwadau dadleuol wedi’u cynnwys yn y sgript wreiddiol, a’i fod wedi eu hychwanegu “ar y bore am fod Arweinydd Cymru a’r Byd yn gyd-athro yn Ysgol Emrys ap Iwan, Abergele, gyda chyfaill agos i mi”.
‘Tynnu coes’
Dywedodd mai “tynnu coes hwnnw oedd y bwriad”, ac nad oedd wedi bwriadu “dilorni’r ysgol, y gymuned honno nac unrhyw gymuned arall”.
Ond eglura ei fod yn “sylweddoli bellach y byddai wedi bod yn ddoethach” pe na bai wedi ceisio “ysgafnu peth ar y cyflwyniad”.
Dywed, fodd bynnag, fod cyfieithu’r sylwadau’n eu gwneud yn “fwy niweidiol nag a fwriadwyd ac yn ei dynnu ymhellach oddi wrth y cyd-destun gwreiddiol”.
Daw’r datganiad i ben drwy ddweud bod ganddo’r “parch mwyaf at holl genhedloedd y byd”, a’i fod unwaith eto’n ymddiheuro am y “sylwadau byrfyfyr”.