Dylai’r Eisteddfod Genedlaethol ystyried cadw fformat Maes B eleni.
Dyna yw barn, Rebecca Hayes, prif leisydd Cadno – band o Gaerdydd a fu’n perfformio yno nos Fercher (Awst 8).
Yn draddodiadol mae gigs Maes B wedi cael eu cynnal ar lwyfan dan ganopi, sydd dafliad carreg i ffwrdd o’r maes gwersylla.
Ond eleni, â’r brifwyl yng Nghaerdydd, mae maes gwersylla Maes B mewn caeau yng ngorllewin y ddinas, tra bod y gigs i bobol ifanc yn cael eu cynnal yn y Bae.
Yn hen ganolfan y Doctor Who Experience mae’r bandiau’n perfformio, ac yn ôl Rebecca Hayes mae’r drefn newydd wedi bod yn “syrpreis neis iawn”.
“Dw i’n credu ei fod yn gweithio naill ffordd, ond roedd e’n neis iawn cael teimlad gwahanol i Faes B,” meddai wrth golwg360.
“Roedd e’n teimlo’n fodern – fel ei fod wedi datblygu lot. Yn enwedig gyda phobol ifanc heddi. Dydyn nhw ddim yr un peth ag yr oedden nhw deg blynedd yn ôl.
“A dwi’n credu bod lle fel Maes B eleni yn apelio’n fawr iawn atyn nhw.”
Doctor pwy?
Mae Rebecca Hayes yn nodi bod pob aelod o’i band wedi bod i’r ganolfan pan oedd yn gartref i brops Doctor Who, a bod ymdrech “anhygoel” wedi bod i drawsnewid y lle.
Ac mae’n teimlo y dylai’r safle gael ei droi’n man gigs, yn barhaol.
“Mae’n rhaid iddyn nhw wneud rhyw fath o gig venue ohono fe ar ôl i’r ‘Steddfod orffen, achos mae’r lle yn ideal,” meddai. “Mae wir yn siwtio gigs. Mae’r venue yn really cool.”
O ran set Maes B Cadno eleni -mae’r prif leisydd yn dweud y cawson nhw noson “dda iawn”.
“Roedd e’n noson lovely ac roedd cynulleidfa wych gyda ni,” meddai.
“Band o Gaerdydd ydyn ni, felly oedd e’n really neis cael chwarae gigiau’r Eisteddfod, gan gynnwys Mae B, yn ein hometown ni. Roedd yna deimlad cartrefol iawn.”