Ddoe [dydd Iau] oedd diwrnod cyntaf Gweinidog y Gymraeg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Ac mewn trafodaeth ar y maes heddiw, fe wnaeth Eluned Morgan amddiffyn ei habsenoldeb ar ôl cael ei beirniadu gan Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, yng nghylchgrawn Golwg.
Yn ôl Meri Huws, mae’r Gweinidog wedi “colli cyfle” ac mae hi yn “biti” nad oedd hi ar faes y Brifwyl o ddechrau’r wythnos.
“Dw i’n derbyn bod ganddi drefniadau gwyliau ond dw i yn credu hefyd bod hi’n colli cyfle i weld y brwdfrydedd sydd wedi bod yma o fore Sadwrn ymlaen,” meddai Meri Huws wrth Golwg.
“A’r ffaith fod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd yng Nghymru mewn ffordd bositif. Buasai hi wedi cael profiad arbennig o fod yma i weld pobol o bob oedran, o wahanol gefndiroedd, yma yn rhan o ddigwyddiad traddodiadol Cymraeg.
“Mae Cymru wedi newid, mae Cymru yn newid a dw i’n credu bod hi’n biti bod hi ddim yma achos mae’n colli mas.”
Gwyliau’r Gweinidog
Dywedodd Eluned Morgan fod angen i wleidyddion gael balans rhwng gwaith a bywyd teuluol a bu hefyd yn gwneud “ychydig o waith” tra ar wyliau yng Nghatalwnia.
“Mae lot o bethau i Weinidog ac mae’n bwysig i ni sicrhau bod gwleidyddion hefyd yn cael bywyd teuluol,” meddai Eluned Morgan.
“Be’ wnes i’r wythnos ddiwethaf oedd mynd i Gatalwnia. Roedd hi’n ddiddorol tu hwnt i glywed ac i gwrdd â phobol ro’n i’n ‘nabod o’r Senedd Ewropeaidd i gwrdd â ffrind i fi oedd yn Llywydd y Pwyllgor Lleiafrifoedd cyn fi, i drafod beth sy’n digwydd yng Nghatalwnia.
“Beth maen nhw’n gwneud, ac mae hwnna wedi bod yn help aruthrol… fe wnes i ddefnyddio fy amser personol i wneud ychydig o waith ymchwil a dod â hynny nôl.”