Gareth Bennett yw arweinydd newydd grŵp UKIP yn y Cynulliad, wedi iddo drechu Neil Hamilton a Caroline Jones yn y ras am y swydd.
Cafodd y bleidlais ei chyhoeddi ym mhencadlys y blaid Brydeinig yn Newton Abbott, Dyfnaint, heddiw, gyda’r Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru yn cael 269 o bleidleisiau [58%].
Aelodau’r blaid yng Nghymru oedd yn cael pleidleisio gyda 514 [58.7% o’r 876 o aelodau i gyd] yn dewis gwneud.
Wrth fynd ati i geisio denu cefnogaeth ymgyrchodd Gareth Bennett tros ddiddymu’r Cynulliad a thorri nôl ar wariant cyhoeddus ar y Gymraeg.
Yn ôl llefarydd ar ran UKIP Cymru, byddai’n rhaid i unrhyw newid i bolisi’r blaid fynd drwy’r gynhadledd Brydeinig.
Cefndir yr arweinydd newydd
Yn ystod ymgyrch etholiad y Cynulliad yn 2016, fe wnaeth Gareth Bennett achosi ffrae fawr ar ôl beio problemau sbwriel Caerdydd ar fewnfudwyr.
Yn fwy diweddar, cafodd ei wahardd rhag siarad yn Siambr y Senedd am gyfnod a hynny am sarhau pobol drawsryweddol.
Dywedodd ar Twitter ei fod “wrth ei fodd” o gael ennill yr etholiad, gan ychwanegu bod “llawer o waith i’w wneud.”