Mae Gweinidog y Gymraeg wedi dweud heddiw y byddai’n ystyried gosod Safonau Iaith yn gorfodi’r sector breifat i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.
Yn y Ddeddf Iaith newydd, mae Eluned Morgan yn bwriadu creu’r hawl i Lywodraeth Cymru allu deddfu ar y sector preifat.
“Efallai” bydd y Llywodraeth yn defnyddio’r hawl yna, meddai, “os na fydda [cwmnïau a busnesau yn] symud, wedyn mae hi’n bosibl i ni [osod Safonau].”
Ond yn ôl y Gweinidog, mae angen creu digon o siaradwyr Cymraeg i ddarparu gwasanaethau yn yr iaith, cyn dechrau deddfu yn y maes.
“Ga’ i jyst rhoi enghraifft i chi, dw i wedi gofyn a dwi wedi hysbysebu dwywaith i gael siaradwyr Cymraeg yn fy swyddfa i yn Hwlffordd, does dim un person wedi trio am y swydd,” meddai Eluned Morgan.
“Nawr mewn sefyllfa lle byddai’n orfodol i fi, buaswn i’n torri’r gyfraith, er bod fi wedi ceisio cael [siaradwr Cymraeg] yn y swyddfa.”
Y Gymdeithas yn tarfu
Roedd Eluned Morgan yn siarad mewn cyfarfod o Gymdeithas Cledwyn y Blaid Lafur yn yr Eisteddfod ac yn cael ei holi gan y ddarlledwraig, Beti George.
Bu’n sesiwn anodd i’r Gweinidog ar ôl i aelodau Cymdeithas yr Iaith darfu ar y drafodaeth a’i chyhuddo o ddweud celwydd.
Yn ôl y mudiad, mae’r ddeddfwriaeth newydd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno, yn wannach na’r mesur iaith presennol.
“Mae angen i ni symleiddio’r [Safonau], mae hefyd angen i ni ddeall dim ond hyn a hyn o arian sydd gyda ni yn y Llywodraeth a lle ry’n ni’n mynd i ddarparu, lle ry’n ni’n mynd i roi ein ffocws ni,” meddai Eluned Morgan wrth geisio amddiffyn ei hun.
“Fy ffocws i yw cael miliwn o siaradwyr, ac os ydyn ni eisiau cael miliwn o siaradwyr, beth sy’n fwy pwysig yw bod ni’n helpu’r cwmnïau yma sydd eisiau help… i gyfieithu pethau bach, i roi awgrymiadau ar sut gallen nhw ddarparu gwasanaeth gwell.
“Dw i’n meddwl bod rhaid i ni fod yn lot fwy ymarferol ynglŷn â sut ry’n ni’n helpu pobol achos chi ddim yn mynd i ddarbwyllo’r 80% o bobol Cymru sydd ddim yn siarad Cymraeg drwy ddala ffon drostyn nhw.
“Mae’n rhaid i chi ddarbwyllo nhw bod hyn yn rhan o’u diwylliant nhw, bod e’n sgil y bydd o ddefnydd iddyn nhw yn y dyfodol.”
Dyma fideo o brotest y Gymdeithas…