Mae Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi datganiad personol yn dilyn ei sylwadau am “anwariaid” Uganda, Abergele a gogledd Lloegr yn ystod Cymanfa Ganu y brifwyl nos Sul (Awst 5).
“Rwy’n ei chael hi’n anodd deall fod rhai pobl wedi methu deall cyd-destun ac ysbryd fy ngeiriau yn seremoni Cymru a’r Byd wrth gyfeirio at Ysgol Emrys ap Iwan, Abergele, at Uganda ac at Ogledd Lloegr,” meddai Eifion Lloyd Jones, yn dilyn yr ymateb i ddatganiad ganddo a gyhoeddwyd gan golwg360 ben bore heddiw.
“Byddwn yr ola’ i ddilorni unrhyw leiafrifoedd yng Nghymru a gweddill y byd.
“Mae gen i’r parch o’r mwya’ at leifrifoedd sy’n sefyll dros eu hawliau mewn unrhyw sefyllfa ac ar unrhyw gyfandir.
” Ond,” meddai Eifion Lloyd Jones wedyn, “os oes unrhywun wedi cam-ddehongli fy ngeiriau a chael loes o hynny, mae’n wirioneddol ddrwg gen i.”