Syn ifanc o Gaernarfon sydd wedi ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.
Rhydian Gwyn Lewis oedd yn cuddio y tu ôl i ffugenw ‘Elffin’, ac er iddo gael ei eni a’i fagu yn y gogledd, mae bellach yn byw yn Grangetown, Caerdydd.
Mae’n cael ei gofio am ei ran yn chwarae cymeriad Jonathan ar Rownd a Rownd, ynghyd â bod yn brif leisydd a gitarydd y band ‘Creision Hud’, ac yn aelod o grŵp ‘Rifleros’.
Mae bellach yn olygydd sgript i gyfres Pobol y Cwm ers bron i bum mlynedd.
“Tanio a chynnal diddordeb”
‘Maes Gwyddno’ yw enw’r ddrama fuddugol, ac mae’n canolbwyntio ar dafarn yn Grangetown yn y flwyddyn 2051, lle mae Cymru’n ar fin gael ei draflyncu gan Loegr a chriw o bobol ifanc yn cynllunio protest derfysgol oherwydd hynny.
“Mae’r sefyllfa’n denu sylw, ac ymdriniaeth y Dramodydd ohoni’n tanio a chynnal diddordeb, gyda thensiwn yn cynyddu drwyddi,” meddai un o’r beirniaid, Betsan Llwyd.
“Ar y cyfan caiff manylion eu datgelu’n grefftus; mae’r ddeialog yn llifo’n rhwydd a naturiol, ac o ran llwyfaniad mae yma ddefnydd dyfeisgar o daflunio.
“Er nad oeddem yn gytûn ar lwyddiant y Dramodydd i greu cymeriadau â lleisiau unigryw, yn sicr mae ganddo ef neu hi rywbeth pwysig i’w ddweud.”
Y beirniad eleni oedd Sarah Bickerton, Betsan Llwyd ac Alun Saunders.