Mae sawl ffordd i ymwelwyr yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd eleni gyrraedd y Maes – gan gynnwys ar ddŵr.

Mae pobol wedi bod yn defnyddio nifer o wahanol ffyrdd i gyrraedd y brifwyl yr wythnos hon, megis ar drên, bws, cefn beic neu hyd yn oed trwy gerdded.

Ond mae’n bosib mai dyma’r Eisteddfod Genedlaethol gyntaf lle mae pobol wedi gallu cyrraedd calon y Maes ar gwch.

Mae dau gwmni’n cynnig gwasanaeth i ymwelwyr sydd am deithio ar gwch rhwng ardal y bae a chanol y brifddinas, sef Aquabus a City Centre Services.

Fesul hanner awr mae’r teithiau’n rhedeg, gyda chost y gwasanaeth yn amrywio rhwng y £6 i £8 i oedolion, a’r £3 i’r £4 i blant.

Gall ymwelwyr fynd ar daith o gwmpas y bae ei hun hefyd, ynghyd â llogi cwch ar gyfer partïon pen-blwydd ac achlysuron eraill.