Mae uchel swyddogion yr Eisteddfod, yr heddlu, a Chyngor Caerdydd yn cyfarfod bob dydd, wrth geisio cadw trefn ar y bobol fydd yn dod i groesawu Geraint Thomas i’r brifwyl heddiw (Awst 9).
Mae’r Senedd wedi cyflogi cwmni diogelwch yn arbennig i reoli’r dyrfa a fydd yn crynhoi o gwmpas grisiau’r adeilad yn y Bae.
Mae hi’n bosib hefyd y bydd strydoedd sy’n arwain at y Senedd yn cael eu cau i geir, os bydd problem.
Effaith ar yr Eisteddfod
Er mwyn gwneud mwy o le yng nghanol stondinau ac adeiladau’r brifwyl, fe fydd ardal chwaraeon y plant, efo’r cestyll gwynt, ar gau heddiw.
Fe fydd y Lle Celf yn cau ‘i bob pwrpas’ tros y cyfnod, meddai’r Eisteddfod.
Fe fydd ciw arbennig ar gyfer pobol sy’n mynd i bebyll y cymdeithasau, ac mi fyddan nhw’n mynd allan ffordd wahanol dros y cyfnod.