Warren Gatland yn hapus
Ennill oedd yn bwysig nid y perfformiad, meddai’r prif hyfforddwr Warren Gatland ar ôl buddugoliaeth agos Cymru tros Samoa yn rownd grwpiau Cwpan y Byd.

“Flwyddyn yn ôl efallai na fydden ni wedi ennill gêm fel yna,” meddai wrth S4C ar ôl y gêm. “Felly mae hynna’n bwynt positif iawn i ni.

“Efallai na wnaethon ni chwarae mor glinigol ag yn erbyn De Affrica ond rhaid i chi roi clod mawr iddyn nhw. Fe wnaethon nhw hi’n galed i ni pan oedd y chwarae’n torri.”

Fe awgrymodd mai troseddu oedd yn gyfrifol am hynny weithiau ond, ar yr hanner, a nhwthau ar ei hôl hi o 10-6, roedd wedi dweud wrth y tîm am ddangos pa mor bwysig oedd hi iddyn nhw i aros yn y gystadleuaeth.

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bellach bod Cymry’n ffefrynnau i fynd trwodd gyda De Affrica – fe ddylen nhw guro Namibia’n hawdd ac fe ddylai Fiji fod yn llai o sialens na Samoa.

Doedd neb yn poeni gormod am safon y perfformiad ar hyn o bryd, meddai Warren Gatland, ond fe fydden nhw’n edrych yn feirniadol ar y gêm yn ystod y ddeuddydd nesa’.

Camgymeriadau’n creu pwysau

Fe fydd y beirniadu hwnnw’n sicr o gynnwys y camgymeriadau a’r methiant i chwarae gêm syml i fynd i dir Samoa cyn dechrau lledu’r bêl.

Roedd yn cyfadde’ bod Cymru wedi rhoi pwysau arnyn nhw eu hunain yn yr hanner cynta’ gan golli’r bêl ar adegau pwysig.

“Efallai ein bod ni wedi trio chwarae gormod o rygbi yn ein hanner ein hunain,” meddai. “Ond pan oedd angen, fe wnaethon ni dyrchu’n ddwfn. Dyw Samoa ddim yn hawdd ac roedden ni’n gwybod hynny.”

Roedd yn falch fod yr eilyddion wedi gwneud gwahaniaeth yn yr ail hanner – yn enwedig Gethin Jenkins a lwyddodd i gipio’r meddiant fwy nag unwaith a Leigh Halfpenny a greodd y cais.