Jamie Roberts - un o'r arwyr
Cymru 17  Samoa 10

Tri munud yng nghanol yr ail hanner a newidiodd Gwpan y Byd i Gymru wrth iddyn nhw guro Samoa mewn gêm flêr ddibatrwm.

Ar ôl 65 munud, a nhwthau ar ei hôl hi o 10-9, fe arweiniodd pwysau yn hanner Samoa at gic gosb i Rhys Priestland ac roedd Cymru ar y blaen.

O fewn dau funud i hynny, fe lwyddodd Leigh Halfpenny – a oedd ymlaen yn lle James Hook – i ddal pêl hir, osgoi tacl uchel a dechrau ymosodiad o ddyfnder ei hanner ei hun.

Fe basiodd i mewn i Jonathan Davies a mynd y tu allan iddo eto i mewn i 22 Samoa ond, pan fethodd y bas â’i gyrraedd, roedd Shane Williams yno i godi a chroesi. Er bod Priestland wedi methu’r gic o’r ystlys, roedd Cymru 17-10 ar y blaen.

Roedd yna un ennyd allweddol arall ar ôl yr 80 munud pan oedd Samoa’n ceisio rhedeg cic gosb o’u llinell 10 llath. Ar ôl sawl camgymeriad yn ystod y gêm, fe lwyddodd Andy Powell i daclo a dwyn y bêl … ac wrth i’r chwiban ola’ fynd, roedd y rhyddhad yn amlwg ar wynebau chwaraewyr Cymru.

Yr hanner cynta’ – yr unig gais i Samoa

Yn yr hanner cynta’, roedd Cymru wedi llwyddo i roi eu hunain dan bwysau oherwydd rhes o gamgymeriadau.

Dyna a arweiniodd at unig gais yr hanner yn y munud ola’ – Cymru’n colli lein ac yn ildio cic yn y 22 … Samoa’n mynd am y gornel a thon ar ôl ton o ymosodiadau ar y llinell yn arwain yn y diwedd at gais i’r prop pen tynn, Anthony Perenise, wrth iddo wyro o dan dacl George North a gwthio ymlaen.

Yn y munudau cynta’, roedd Cymru wedi mynd ar y blaen trwy gic gosb gan James Hook, cyn i’r Ynyswyr ddod yn gyfartal wedi i gamgymeriad arall gan Gymru arwain at gic gosb hawdd.

Sgrym pwerus a arweiniodd at ail gic gosb James Hook ac roedd ambell rediad a thacl gan Jamie Roberts wedi siglo Samoa ond roedd y camgymeriadau’n llesteirio chwarae Cymru.

Cais i Samoa

Yn union wedyn, ar ôl i Andy Powell golli’r bêl dan y gic, fe lwyddodd Samoa i groesi ond fe gawson nhw’u cosbi am symud ddwywaith. Roedd Andy Powell ymlaen yn lle Dan Lydiate, a oedd wedi ei anafu ar ôl ychydig funudau.

Roedd Samoa ar y blaen o 10-6 ar yr egwyl ond, yn union wedi’r hanner, gyda James Hook wedi gadael y cae ar yr egwyl gydag anaf i’w ysgwydd, fe gafodd Rhys Priestland gyfle am gic gosb hir. Fe drawodd y trawst a chroesi i’w gwneud hi’n 9-10 a chreu’r llwyfan ar gyfer y tri munud a newidiodd y gêm.

Am y cyfnod hwnnw, roedd Cymru wedi gwneud yr hyn yr oedd y sylwebwyr a’r arbenigwyr wedi bod yn ei ddweud – bod rhaid chwarae yn hanner Samoa a gwneud y pethau syml.

Jenkins ymlaen

Roedd yna newyddion da arall i Gymru hefyd wrth i Gethin Jenkins ddod ymlaen am y chwarter awr ola’ a dangos ei gryfder ar unwaith gyda thacl a enillod gic gosb.

Roedd Jamie Roberts a’r capten Sam Warburton ymhlith yr arwyr eraill – Roberts yn rhedeg a thaclo’n nerthol a Warburton yn ardderchog wrth ymladd am y bêl ar y llawr.