Ar y brig
Fe aeth y Seintiau Newydd i frig Uwch Gynghrair Cymru ar bwyntiau gyda buddugoliaeth gyfforddus iawn yn erbyn Lido Afan.

Dim ond tair gôl oedd ynddi, ond fe allai fod wedi bod yn llawer mwy wrth i’r Lido dreulio’r gêm yn amddiffyn.

Fe ddaeth dwy o’r goliau yn yr hanner cynta’, i  Chris Sergeant a Craig Jones, gyda Matty Williams yn cael y drydedd tua chwarter awr o’r diwedd.

Bangor yn cael sioc

Fe allen nhw fod yn dathlu mwy fyth pe bai Caerfyrddin wedi gallu dal eu tir ar ôl mynd ar y blaen yn annisgwyl gartref yn erbyn Bangor.

Fe ddaeth gôl Nick Harrhy ar amser tyngedfennol yn union cyn yr egwyl ond fe gryfhaodd Bangor a phwyso’n galed am weddill y gêm.

Fe ddaeth y goliau trwy Craig Garside ac wedyn yr hogyn lleol, Neil Thomas.Fe barhaodd Castell Nedd i roi pwysau ar yr arweinwyr hefyd gyda buddugoliaeth dda oddi cartre’ yn y Drenewydd – o 4-0.

Mee’r Bala a’r Seintiau’n gyfartal o ran pwyntiau ar y brig o flaen Bangor a Chastell Nedd.