Dan Biggar - 19 pwynt
Treviso 27 Y Gweilch 32
Dim ond ei gwneud hi wnaeth y Gweilch wrth ddod yn ôl i gipio’r pwyntiau yn Nhreviso yn yr Eidal.
Roedden nhw ar ei hôl hi o 16-18 ar yr hanner, a’r Eidalwyr wedi sgorio dau gais yn erbyn un.
Tom Isaacs oedd wedi croesi i’r Gweilch cyn yr egwyl a nhw a gafodd unig gais yr ail hanner, gyda’r capten ifanc Justin Tipuric yn parhau gyda’i rediad da o chwarae.
Roedd yna 19 pwynt hefyd i’r maswr Dan Biggar, ond Kristian Phillips a gafodd y pwyntiau ola’ i setlo’r gêm.
Bryd hynny, roedd Treviso’n closio gyda thair cic gosb, un ar ôl y llall, ond roedd y gic gosb i’r Gweilch yn y munud ola’ yn ddigon i setlo’r gêm.