Methiannau’r gwrthbleidiau sydd yn cadw’r Blaid Lafur mewn grym yng Nghymru, yn ôl academydd o Brifysgol Caerdydd.
Ers etholiad cyntaf y Cynulliad yn 1999 mae Llafur wedi bod wrth y llyw ym Mae Caerdydd.
Ac yn ôl Roger Awan-Scully – Athro a fuodd yn trafod y mater ar faes yr Eisteddfod ddydd Mercher (Awst 8) – mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn rhannol ar fai am hynny.
“Un rheswm am oruchafiaeth y Blaid Lafur yw methiant y pleidiau eraill,” meddai wrth golwg360.
“Ac un peth sydd wedi bod yn bwysig dros y ddau ddegawd diwethaf – rhan fawr – ydy’r ffaith bod y Blaid Lafur yng Nghymru wedi chwarae gwleidyddiaeth datganoli mewn ffordd llawer mwy deallus a gwell na’r Blaid Lafur yn yr Alban.”
O ran methiannau Plaid Cymru, mae’r Athro yn ymhelaethu ymhellach, a’n beio penodiad Ieuan Wyn Jones yn arweinydd yn 2000.
Roedd rhagflaenydd y ffigwr hwnnw, Dafydd Wigley, yn “boblogaidd iawn ac effeithiol iawn” meddai Roger Awan-Scully.
Ond, “doedd Ieuan Wyn Jones ddim yn effeithiol yn apelio at y bobol”, meddai, gan ychwanegu ei fod yn “anodd iawn” amddiffyn y ffaith bod y blaid wedi ei gadw mewn grym am dros ddegawd.
Un blaid mewn grym
Mae Roger Awan-Scully yn cydnabod nad yw’r sefyllfa sydd ohoni yn “beth iach” ac mae’n dweud ei fod yn “anodd iawn” ffeindio enghraifft iachus o wladwriaeth ‘un blaid’.
Er nad yw’n ffyddiog y daw goruchafiaeth Llafur i ben yn y dyfodol agos, mae’n credu y gallai Brexit ac ymadawiad y Prif Weinidog, Carwyn Jones, newid pethau.
“Ar hyn o bryd, maen anodd gweld [etholwyr] yn cael gwared ar Lafur yn yr etholiad nesa’,” meddai.
“Un o’r pethau sydd wedi bod yn siomedig iawn ers yr Etholiad Cynulliad diwetha’ yw bod y gwrthwynebiad wedi bod mor anobeithiol.
“Ond, mae’n bosib bydd Brexit yn cael effaith mawr ar wleidyddiaeth ar draws y Deyrnas Gyfunol.”