Bydd gemau quidditch yn cael eu cynnal ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd ddiwedd y mis, a hynny wrth i bencampwriaeth Uwch Gynghrair y gamp gael ei chynnal yno.
Mae’r gamp wedi’i hysbrydoli gan lyfrau Harri Potter yr awdures, J K Rowling, a bellach mae quidditch wedi datblygu’n gamp go iawn.
Bydd y bencampwriaeth yn gweld deg tîm o wahanol rannau o wledydd Prydain yn herio’i gilydd, gan gynnwys un tîm o Gymru sydd newydd gael ei sefydlu, sef Y Dreigiau Cymreig.
Dim ond am ddiwrnod y bydd y bencampwriaeth yn cael ei chynnal, gyda phob un tîm yn cystadlu yn y gêm ar Awst 25.
Penllanw yw’r diwrnod i gyfres o gemau rhanbarthol sydd wedi cael eu cynnal yn ystod y ddau fis diwethaf.
Mae’r Deyrnas Unedig wedi’u rhannu’n ddau ranbarth, gyda phum tîm yr un yn Rhanbarth y Gogledd a Rhanbarth y De.
Quidditch?
Ers poblogrwydd y llyfrau a’r addasiadau ffilm, mae quidditch bellach yn cael ei chwarae gan 20,000 o chwaraewyr ledled y byd.
Mae pob tîm quidditch yn cynnwys 21 athletwr, ond dim ond saith chwaraewr ar bob ochr sy’n cael chwarae ar yr un pryd.
Y rhan fwyaf ddiddorol o’r gamp yw bod yn rhaid i bob chwaraewr chwarae’r gêm gydag ysgubell rhwng ei goesau.
Mae rheolau hefyd yn nodi mai dim ond hyd at bedwar chwaraewr o’r un rhyw sy’n cael bod ar y cae ar yr un pryd.