Mae cylchgrawn Golwg yn datgelu heddiw y bydd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Caerdydd yn mynd ar ei union o gael canmoliaeth am y brifwyl yn y brifddinas i wneud un o swyddi cyfathrebu mwya’ heriol y wlad.
Ashok Ahir sydd wedi cael ei benodi yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu ar Swyddfa Cymru, adran Alun Cairns, ac mae Golwg yn datgelu heddiw (dydd Mercher, Awst 8) bod Ashok Ahir eisoes wedi dechrau ar ei swydd yn rhan amser ers wythnos neu ddwy, ond y bydd yn dechrau arni go iawn wedi’r brifwyl yn y Bae.
Teitl llawn y swydd ydi ‘Cyfarwyddwr Cyfathrebu Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru’, ac fel rhan o honno, fe fydd yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu i Ysgrifennydd Cymru ar adeg pan mae Alun Cairns wedi cael ei feirniadu am sawl penderfyniad amhoblogaidd.
Ynghynt eleni, fe wnaeth degau ar filoedd o bobol arwyddo deiseb yn erbyn penderfyniad Alun Cairns i ail-enwi’r ail Bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru.
Ac mae sawl penderfyniad arall gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, fel peidio â thrydaneiddio’r rheilffyrdd yr holl ffordd i Abertawe a methiant i gefnogi Morlyn Llanw Bae Abertawe, wedi codi gwrychyn yng Nghymru.
Y stori’n llawn a sgwrs gydag Alun Cairns am Lol a cherdd y barbeciw – yn Golwg.