Fe fydd gêm Y Seintiau Newydd yn erbyn pencampwyr Denmarc, Midtjylland, yng Nghynghrair Ewropa nos Iau yn fyw ar S4C am 7.45yh.

Mae’r gêm wedi’i symud i Stadiwm Dinas Caerdydd er mwyn cydymffurfio â rheolau UEFA sy’n golygu nad yw Neuadd y Parc yn gallu cynnal gemau y tu hwnt i’r ail rownd gymhwyso.

Mae’r tîm o Groesoswallt yn sylweddoli maint yr her sy’n eu hwynebu, ar ôl iddyn nhw gael crasfa gan Midtjylland o 8-3 dros ddau gymal yn 2011.

Ac fe gyrhaeddodd pencampwyr presennol Denmarc y 32 olaf ddau dymor yn ôl cyn colli i Man U.

Pe bai’r Cymry’n llwyddo i gipio buddugoliaeth, fe fyddan nhw’n herio naill ai Malmo o Sweden neu Videoton o Hwngari yn y gemau ail gyfle.

Midtjylland

Enillodd Midtjylland gynghrair Denmarc gydag 85 o bwyntiau, gan dorri record yn y wlad, wrth ennill 27 gêm allan o 36.

Sgorion nhw 80 o goliau yn ystod y tymor, gan ildio dim ond 39 – gwahaniaeth goliau o +41.

Cafodd y clwb ei ffurfio yn 1999 ar ôl uno Ikast FS a Herning Fremad.

Maen nhw wedi cyrraedd y chwech uchaf yn y gynghrair bob tymor ers deng mlynedd.