Daeth cadarnhad y bydd tri ymgyrchydd iaith yn cael eu herlyn am wrthod talu eu ffri drwydded deledu.
Mae Williams Griffiths o Fodorgan ym Môn, Ffred Ffransis o Lanfihangel-ar-Arth yn Sir Gaerfyrddin, a Heledd Gwyndaf o Dalgarreg yng Ngheredigion wedi gweithredu wrth alw am ddatganoli darlledu i Gymru.
Daw’r cadarnhad ar y diwrnod pan fydd mater darlledu yng Nghymru’n cael sylw mewn sgwrs ym Mhabell y Cymdeithasau 2 ar Faes yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd. Yn cymryd rhan yn y digwyddiad am 3 o’r gloch mae Euryn Ogwen Williams, yr Ysgrifennydd Cabinet Alun Davies ac Angharad Mair.
Yr ymgyrch
Williams Griffiths, Ffred Ffransis a Heledd Gwyndaf yw’r bobol gyntaf gerbron llys ers i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddechrau annog pobol i wrthod talu eu ffi drwydded deledu y llynedd.
Yn ôl y Gymdeithas, mae mwy na 70 o bobol wedi gwrthod talu’r ffi ar hyn o bryd.
Wrth aros am ddyddiad ar gyfer ei gwrandawiad, dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf ei bod yn “ddiolchgar” i bawb sydd wedi ymuno â’r ymgyrch.
“O ddiffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol a theledu lleol, i’r toriadau difrifol i S4C, i’r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau, mae’n glir nad yw Llundain yn rheoli’r cyfryngau er budd pobol Cymru.”
‘Diffyg democrataidd’
“Mae hi hefyd yn amlwg bod gan Gymru ddiffyg democrataidd mawr,” meddai wedyn. “Mae’r darlledwyr Prydeinig yn drysu pobol drwy adrodd ar yr holl benderfyniadau sy’n effeithio ar Loegr yn unig fel petai’n berthnasol i ni.
“Mae angen i’r penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael eu gwneud gan bobol Cymru. Mae’n bryd datganoli darlledu.
“Nawr yw’r amser i sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn rheoli ein cyfryngau er lles yr iaith a holl gymunedau Cymru. Ac mae’r cyhoedd gyda ni: yn ôl arolygon barn, mae mwyafrif clir o bobol Cymru o blaid datganoli maes darlledu yn ei gyfanrwydd i Gymru.
“Byddai datganoli darlledu felly yn hwb enfawr i ddarlledu a democratiaeth Cymru, gyda llawer mwy o arian yn cael ei wario ar raglenni am Gymru, o Gymru ac yng Nghymru nag sydd heddiw.
“Yn ogystal â hynny, byddai’r holl raglenni darlledu cyhoeddus yn cael eu cynhyrchu o safbwyntiau Cymru felly byddent yn adlewyrchu dyheadau pobol Cymru.”