Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau mai ar y tir fydd meini’r Orsedd eleni – nid ar blatfform sy’n arnofio yn y bae.

Daw’r cadarnhad ar ddiwrnod agoriad y brifwyl, ac yn sgil adroddiadau am ‘feini ar y dŵr’.

Yn siarad â golwg360 ym mis Awst y llynedd, mi ddywedodd Ashok Ahir, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod eleni, bod y syniad dan ystyriaeth.

Ac roedd sôn hefyd am osod rhannau o’r maes ar gaeau a fyddai’n arnofio yn y bae, ond dyw hynny hefyd heb gael ei wireddu.

Beth fydd y drefn eleni?

Er bod meini’r orsedd yn sefyll trwy gydol y brifwyl fel arfer, nid dyna yw’r drefn eleni.

Bydd y meini yn cael eu codi ar ddau achlysur yn unig – Awst 6 a 10 – ar gyfer seremonïau urddo Gorsedd y Beirdd.

Byddan nhw’n sefyll ym Mhlass Roald Dahl a’n cael eu tynnu i lawr ar ôl y seremonïau er mwyn gwneud lle o flaen Llwyfan y Maes.

Newid y drefn

Er bod y traddodiad o godi’r cerrig â thipyn o hanes iddo, mae yna dipyn o arloesi wedi bod dros y blynyddoedd.

Yr enghraifft amlycaf o hynny, yw’r penderfyniad i gyflwyno meini plastig yn 2005, i gymryd lle’r meini go-iawn.