Mae Anweledig, Geraint Jarman a Meic Stevens ymhlith yr artistiaid a bandiau Cymraeg a fydd yn perfformio yng Ngŵyl Rhif 6 sy’n digwydd ar benwythnos Medi 8 a 9 ym Mhortmeirion eleni.
Dyma fydd seithfed flynedd yr ŵyl, ac unwaith eto eleni mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi lein-yp o fandiau Cymraeg amlycaf y wlad.
Ynghyd â’r enwau amlwg sydd eisoes wedi’u henwi, bydd yr ŵyl yn cynnig llwyfannau i fandiau ifanc a chyffrous y Sîn Roc Gymraeg.
Ymhlith yr artistiaid yma mae Cadno, Pasta Hull, Ffracas, Gwilym, Alffa, Adwaith, Campfire Social, Campfire Social, CHROMA a Eädyth.
Ac i’r unigolion sydd yn ffafrio cerddoriaeth lai bywiog, bydd Côr Meibion y Brythoniaid yn dychwelyd i swyno ymwelwyr.
Dau artist sydd yn ddigon cyfarwydd â pherfformio yn yr ŵyl, a fydd yn dychwelyd yno eleni, fydd Gwenno a’r band Yucatan.
Gŵyl Rhif 6
Mae Gŵyl Rhif 6 yn cael ei chynnal ym mhentref Portmeirion, ger Penrhyndeudraeth.
Er i’r ŵyl ddenu sylw yn y gorffennol am eu hymateb i dywydd garw, mae wedi ennill sawl gwobr Brydeinig.
Ym mis Gorffennaf mi wnaethon nhw gyhoeddi na fyddan nhw yn cynnal yr ŵyl y flwyddyn nesaf.