Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud bod y brifwyl yn “fwy na’r cystadlu”.

Wrth i Elfed Roberts roi’r gorau i’w swydd eleni, mae’n dweud mai un o’r pethau y mae’n falch ohono wedi chwarter canrif wrth y llyw yw’r ffaith bod y brifwyl wedi “datblygu ac esblygu”.

“Mae’r Eisteddfod wedi datblygu yn unol â gofynion y cwsmer,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r cystadlu a’r cyngherddau yn dal i ddigwydd yn y pafiliwn ac mae’r pafiliwn yn rhan ganolog o’r Eisteddfod.

“Beth ydan ni wedi’i wneud yn ychwanegol i hynny ydy ceisio datblygu adloniant sy’n unol â gofynion y bobol.”

Gwrando ar y bobol

Mae Elfed Roberts yn mynnu mai “syniadau’r bobol” sydd wedi gwneud yr Eisteddfod Genedlaethol yn hyn y mae hi heddiw.

Dymuniad y bobol, meddai, a’i ysgogodd i gyflwyno rhai o’r prif ddatblygiadau, gan gynnwys cyflwyno bar a chynnig adloniant gyda’r nos ar y Maes, ynghyd â gwneud Cylch yr Orsedd yn gylch symudol.

“Yn Eisteddfod Llandeilo yn ʾ96, roedd pobol yn dweud eu bod nhw’n gorfod cerdded o Ffair Fach i fyny i dre’ Llandeilo er mwyn cael cymdeithasu dros beint o gwrw, ac wedyn roedd pobol yn dweud: ‘wel, pam na gawn ni far ar y maes?’

“Pobol wedyn mewn eisteddfod arall yn Eisteddfod Meifod yn 2003, y flwyddyn honno roedd Ioan Gruffydd yn cael ei urddo i’r Orsedd.

“Roedd y bobol oedd eisiau gweld Ioan Gruffydd yn cael ei urddo i’r Orsedd yn gorfod teithio o Feifod i’r Trallwng. Roedd pobol yn dweud wedyn: ‘Wel, pam na gawn ni Gylch ar y Maes?

“Pobol sydd wedi rhoi’r syniadau hyn, a’r un peth rydym ni wedi’i wneud yw gwrando arnyn nhw ac asesu a ydyn nhw’n bosib neu beidio, ac yna’u cyflwyno nhw.”

Anghytuno yn “beth iach”

Ond mae’r Prif Weithredwr yn cyfaddef nad oedd pawb wedi “gwirioni” ar rai o’r datblygiadau pan gawson nhw eu cyflwyno am y tro cynta’.

“Roedd yna wrthwynebi

ad pan ddaru ni benderfynu ein bod ni’n mynd i gael bar ar y Maes,” meddai.

“Roedd yna rai pobol yn gwrthwynebu ac roedd ganddyn nhw ofnau gwirioneddol.

“Ond wrth gwrs erbyn heddiw, mae pobol wedi derbyn hynny ac maen nhw wedi derbyn ei fod o wedi bod yn gam eitha’ cyffredin a’i fod o jyst wedi normaleiddio’r Eisteddfod…

“Mae’n naturiol bod yna bobol yn rhoi eu barn ar bethau, ac mae hynny’n beth normal ac mae o hefyd yn beth iach.

“Os oes yna rywun yn anghytuno efo rhai o’r syniadau, yna mae’n dda cael y ddwy ochor.

“Dyna sut rydan ni’n gweithredu.”