Y teimlad o fod “eisiau newid byd” a arweiniodd Elfed Roberts i adael byd newyddiaduraeth a chychwyn ar daith a’i arweiniodd i fod yn Brif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae’r gŵr sy’n hanu o Ben-y-groes, Dyffryn Nantlle,  wedi bod yn bennaeth ar y brifwyl ers 1993. Ond cyn hynny, fe fu’n gweithio i’r Urdd, yn gwerthu bwydydd anifeiliaid i ffermwyr ac yn gyw newyddiadurwr i bapur newydd yng ngogledd Cymru.

Bu’n ohebydd i’r Herald yng Nghaernarfon er pan adawodd yr ysgol yn 17 oed, ond ar ôl treulio 11 mlynedd yn gohebu, fe ddaeth i’r casgliad ei fod “wedi gwneud digon”.

“Ro’n i’n mwynhau lot o bethau roeddwn i’n ei wneud, hynny ydi cyfarfod pobol a phethau felly,” meddai Elfed Roberts wrth golwg360.

“Ond roedd yna hefyd bethau oedd ddim mor ddeniadol, hynny ydy mynd i gyfarfodydd cyngor sir a chyngor dosbarth a rhyw bethau felly.

“Roedd o’n gallu bod yn eitha’ diflas gwrando ar gynghorwyr yn siarad ac yn siarad ac yn siarad, felly roeddwn i ddim yn rhy awyddus i dreulio fy mywyd yn gwneud hynny.

“Roeddwn i’n meddwl y buasai angen newid bach arna’ i, ac wedyn y swydd gynta’ a gefais i ei chynnig oedd swydd efo cwmni a oedd yn gwerthu bwydydd i anifeiliaid.

“Mi ddysgais i lot fawr yn fan’no – dysgu sut i drin ffermwyr, dysgu sut i werthu eich hun, ac wedyn fe ddaeth pethau yn o lew wedyn…”

Pwysigrwydd pobol

Diddordeb mewn pobol yw’r un peth sydd wedi gyrru Elfed Roberts trwy gydol ei oes, meddai wedyn.

Er bod gwaith Prif Weithredwr yr Eisteddfod y Genedlaethol yn cynnwys mynychu cyfarfodydd di ben draw, mae’n dweud ei fod yn eu mwynhau gan fod pobol yn trafod “pethau difyr”.

“Pan oeddwn i’n mynd i gyfarfodydd cyngor sir neu gyngor dosbarth, roeddan nhw’n sôn am bob math o bethau diflas – argoel, roedd hynny braidd yn llethol,” meddai am ei gyfnod yn newyddiadurwr.

“Ond pan dw i’n mynd i gyfarfodydd efo’r Eisteddfod, mae’n o’n ymwneud yn uniongyrchol efo fy ngwaith i, ac efo pethau mae gen i ddiddordeb ynddyn nhw.

“Mae hynny tipyn yn wahanol.”