Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud nad ydi o tan eleni erioed wedi teimlo fel rhoi’r gorau i’w swydd.
A’r unig reswm y mae Elfed Roberts yn ei roi am adael y swydd ar ôl prifwyl Caerdydd eleni yw ei fod yn “mynd yn hen”, meddai.
Ond mae’r gŵr sydd wedi bod wrth y llyw ers 1993 yn cyfaddef bod rhai adegau yn ystod ei gyfnod wedi bod yn “anodd” i’r brifwyl yn gyffredinol.
Mae’n cyfeirio’n benodol at ddechrau’r 2000au, pan oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn wynebu toriadau i’w grant cyhoeddus.
“Mi fu’r Eisteddfod trwy gyfnod anodd, ac wedyn roedd rhaid dysgu gwersi yn deillio o hynny,” meddai Elfed Roberts wrth golwg360.
“Mi roedd rhaid denu mwy o bobol trwy’r gatiau; mi roedd rhaid gwneud yr Eisteddfod yn fwy perthnasol a moderneiddio, felly rydan ni wedi gwneud hynna i gyd.
“Ond rydan ni hefyd wedi gorfod bod yn fwy darbodus fel mae unrhyw gorff sy’n derbyn arian cyhoeddus.
“Mae’n rhaid sicrhau bod yr arian sydd ganddon ni yn cael ei ddefnyddio yn ddarbodus, ac mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n trefnu gweithgareddau fedrwn ni eu fforddio.
“Mae hwn yn rhan o waith unrhyw gorff cyfrifol, a dw i’n falch ein bod ni wedi bod trwy hynna a’n bod ni wedi dod allan yn y pen arall yn llawer iawn doethach ac yn llawer iawn cryfach.”