Mae’r corff sy’n gyfrifol am Gastell Aberteifi wedi dod dan y lach am hysbysebu am reolwr, ond nad yw’r gallu i siarad Cymraeg yn ddim ond “dymunol”.
Heddiw (Awst 1) yw dyddiad cau derbyn ceisiadau am y swydd Rheolwr Datblygu Busnes, Achlysuron a Digwyddiadau y castell lle cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf erioed yn 1176.
Mae’r swydd ran amser yn cynnig cyflog o £16,000, ac mae’r disgrifiad yn nodi bod disgwyl i’r sawl sy’n ei chael gyfrannu at y gwaith o farchnata’r castell.
A reit ar waelod yr hysbyseb, mae’r frawddeg: “Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol.”
Beirniadaeth
Mae grŵp ymgyrchu Cylch yr Iaith wedi ymateb i hyn trwy alw am eglurhad gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan.
“Sut all yr Ymddiriedolaeth gyfiawnhau hynny?” meddai Howard Huws, ar ran Cylch yr Iaith.
“Dymunwn glywed sut y gallai penodi swyddog di-Gymraeg wella’r ddarpariaeth ar gyfer ymwelwyr â’r Castell, a’i wneud yn fwy atyniadol i gymunedau cyfagos, ac i ymwelwyr o Gymru a thu hwnt.
“Nid y gwerth gorau am arian fyddai penodi swyddog di-Gymraeg.”
Cestyll
Daw’r alwad ddiweddara’ hon gan Gylch yr Iaith bythefnos yn union wedi iddyn nhw dynnu sylw at ddarpariaeth Gymraeg castell arall yng Nghymru.
Mae’r grŵp wedi beirniadu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am ddarpariaeth Gymraeg Castell Penrhyn ger Bangor, hefyd.
Mae’r Ymddiriedolaeth wedi ymateb i hynny trwy ddweud bod yna “ymrwymiad cadarn yng Nghastell Penrhyn i gynnig profiad dwyieithog o’r radd flaenaf”.