Mae cyn-reolwr swyddfa i Aelod Seneddol Llafur o Gymru wedi cael ei chanfod yn ddieuog o dwyll.
Roedd Jenny Lee Clarke, 42 oed, wedi cael ei chyhuddo leihau ei horiau gwaith wythnosol, ynghyd â rhoi codiad cyflog i’w hun – o £37,000 i £39,000 – tra oedd hi’n rheolwr swyddfa i’r Aelod Seneddol dros Ddwyrain Abertawe, Carolyn Harris.
Fe glywodd Llys y Goron Caerdydd fod Jenny Lee Clarke wedi ffugio llofnod ar ffurflen a gafodd ei gyflwyno i IPSA (Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol), cyn awdurdodi’r newidiadau mewn e-bost.
Ond er i Carolyn Harris fynnu nad oedd hi wedi rhoi unrhyw orchymyn am hyn, fe benderfynodd y rheithgor bod ei chyn-reolwr swyddfa yn ddieuog o ddau achos o dwyll.
Honiadau o fwlio
Yn ystod yr achos hefyd, fe glywodd y llys honiadau bod Carolyn Harris wedi bwlio ei chydweithwraig.
Yn ôl yr honiadau, roedd yr Aelod Seneddol, sy’n Ddirprwy Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, wedi tynnu gwallt Jenny Lee Clarke, ynghyd â gwneud sylwadau dilornus am y ffaith ei bod yn hoyw.
Roedd Carolyn Harris wedi gwadu’r cyhuddiadau hyn, gan ddweud bod yna dipyn o “dynnu coes” yn bodoli rhwng y ddwy.