Mae gwleidyddion a chynghorwyr wrthi’n trafod sut i ddathlu buddugoliaeth Geraint Thomas yng nghystadleuaeth enwog y Tour de France.
Mae’r seiclwr yn hanu o Gaerdydd, ac ef oedd y person cyntaf o Gymru i ennill y gystadleuaeth wrth groesi’r llinell derfyn ym Mharis ddydd Sul.
Bydd Geraint Thomas yn dychwelyd i’r Deyrnas Unedig yn ddiweddarach ddydd Llun (Gorffennaf 30), ond nid yw’n glir pryd y bydd yn ôl yng Nghymru.
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud yr hoffai weld dathliad swyddogol, ac y byddai’n trafod y posibiliad â swyddogion yn y Bae.
Hefyd, mae Cyngor Caerdydd wedi dweud yr hoffen nhw gynnal dathliad o ryw fath.
Paris a Chaerdydd
Ar ddydd Sul (Gorffennaf 29) fe wnaeth cannoedd o seiclwyr deithio o Fae Caerdydd i Gastell Caerdydd i ddathlu buddugoliaeth Geraint Thomas.
Ac ym Mharis, cafodd baneri Cymru eu gosod ger y llinell derfyn yng nghanol Paris.
Ymateb Cyngor Caerdydd
“Mae Caerdydd yn hynod o falch o gyrhaeddiad Geraint, a’i lwyddiant ysgubol i chwaraeon Cymru,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd.
“Bydd y ddinas yn awyddus i ddathlu dychweliad Geraint, ac fe fyddwn yn dechrau trafodaethau â Geraint a Beicio Cymru ar ddechrau’r wythnos hon.”