Mae Geraint Thomas wedi bod yn derbyn negeseuon o Gymru a thu hwnt ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ei longyfarch ar ei fuddugoliaeth yn ras feics Tour de France.
Fe gipiodd e’r fuddugoliaeth wrth i’r ras ddirwyn i ben ym Mharis y prynhawn yma.
Cwblhau’r cymal olaf yn unig oedd ei nod er mwyn cael ei goroni’n bencampwr – y dyn cyntaf o Gymru i ennill y ras.
Cyfryngau cymdeithasol
Mae llu o enwogion o’r byd gwleidyddol a byd y campau wedi troi at wefan gymdeithasol Twitter i’w longyfarch – ac yn eu plith mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ac Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.
Ac roedd neges Gymraeg hefyd gan Brif Weinidog Prydain, Theresa May.
Llongyfarchiadau i @GeraintThomas86 ar ei lwyddiant yn y #TourDeFrance. Cyflawniad aruthrol y gall pawb yn yng Nghymru a’r DU gyfan fod yn falch ohono. 🏴🇬🇧🚴 @TeamSky
— Theresa May (@theresa_may) July 29, 2018
Llongyfarchiadau @GeraintThomas86 #CymruAmByth #TDF2018 https://t.co/N5gXvJYUjs
— Carwyn Jones (@fmwales) July 29, 2018
.@AlunCairns congratulates @GeraintThomas86 on keeping his grip firmly on the yellow jersey after the penultimate stage for the Tour de France today.
Well done to him, fellow Welshmen Sir Dave Brailsford, @LukeRowe1990 and the whole of @TeamSky #TDF2018 pic.twitter.com/i4McdP2LSV
— UK Government Wales (@UKGovWales) July 28, 2018
Cyd-ddisgyblion yn yr ysgol
Yn ogystal, mae e wedi derbyn negeseuon dros y deuddydd diwethaf gan ddau o’i gyd-ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd – cyn-gapten rygbi Cymru, Sam Warburton, a’r pêl-droediwr Gareth Bale.
Absolutely awesome @GeraintThomas86! Thoroughly deserved, and couldn’t happen to a nicer guy #Legend 🥇 🚴♂️ https://t.co/UnCMdH8rf6
— Sam Warburton (@samwarburton_) July 28, 2018
Incredible achievement from a fellow Whitchurch High pupil! @GeraintThomas86 What a win! #TDF2018 🏴 pic.twitter.com/6Aa9ckmNwY
— Gareth Bale (@GarethBale11) July 29, 2018
Ac mae tîm Sky wedi diolch i Gymru am y gefnogaeth i Geraint Thomas yn ystod y ras:
Pride of a nation! The Welsh support has been incredible for @GeraintThomas86 during #TDF2018 pic.twitter.com/lgJD1eumNB
— Team Sky (@TeamSky) July 29, 2018