Mae dros 350 o bobol wedi mynegi eu gwrthwynebiad i ddatblygiad ar gyrion tre’ San Clêr a fydd yn cynnwys codi bwyty McDonald’s a chaffi Costa Coffe.
Yn ôl yr artist a’r gof, David Peterson, sy’n aelod o’r grŵp gweithredol a gafodd ei sefydlu i wrthwynebu’r datblygiad, roedd McDonalds wedi rhoi’r addewid y byddai ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar y mater.
Ond mae o’r farn bellach mai “celwydd” oedd hyn, ac yn ystod y misoedd diwetha’ maen nhw fel ymgyrchwyr wedi mynd ati i gynnal eu hymgynghoriad eu hunain, gyda dros 350 yn erbyn y datblygiad.
“Mae yna un neu ddau o bobol sydd ddim yn deall goblygiadau’r peth, ond mae rhai o’r pethau sydd wedi’u hanfon yn eithaf syfrdanol,” meddai David Peterson wrth golwg360.
“Dw i ddim yn meddwl bod cwmnïau rhyngwladol fel McDonald’s, sydd â’r holl arian, yn deall… mae gan San Clêr hanes arbennig gyda therfysgoedd Beca ac yn y blaen. Fyddwn ni ddim yn cael ein trechu, na dod o dan benderfyniad cwmni o’r Unol Daleithiau.”
Effaith ar iechyd
Un o’r pryderon mwya’ sydd gan David Peterson am y datblygiad yw’r effaith y bydd yn ei gael ar iechyd pobol leol. Mae’n dweud bod y grŵp eisoes wedi derbyn barn gan arbenigwyr meddygol, gyda’r rheiny hefyd yn mynegi eu pryderon.
“Mae gennym ni broblem enfawr yn San Clêr, lle mae traean y plant yn or-dew,” meddai. “Mae hyn yn warthus – mae’n anfoesol.
“Maen nhw [McDonald’s] yn gwneud hyn yn fwriadol, ac mae unrhyw gymuned sy’n fodlon ei dderbyn yn wallgo’.”
“Fe fydd yn sarnu’r dre’”
Mae’r artist hefyd yn dweud y bydd y datblygiad yn “sarnu” tre’ San Clêr, er gwaetha’r addewid y bydd tua 80 o swyddi newydd yn cael eu creu.
“Mae gyda ni 18 o lefydd bwyd yn San Clêr yn barod, ac maen nhw [y cwmnïau rhyngwladol], yn dweud y byddan nhw’n dod ag 80 o swyddi newydd, ond fe fyddan nhw’n mynd ag 80 o swyddi hefyd,” meddai.
“Dim ond cymaint a hynny o arian sy’n cael ei wario ar fwyd – dydyn ni ddim yn mynd i fwyta mwy, na gwario mwy ar fwyd.
“Yn hytrach rydym nin mynd i’w wario yn rhywle arall…
“Os agorwch chi McDonald’s a Costa yn San Clêr, ie, fe fyddan nhw’n dod â swyddi rhan amser sydd â chyflog isel, ond fe fyddan nhw’n mynd â’r un rhif o swyddi, a’r un rhif o wariant.”